top of page

EIN STORI

Hanes y gwch hwylio Menai Strait One Design (MSOD) - Ei hanes, diwylliant a treftadaeth arwyddocaol.

Original Designs.png

Planiau Gwreiddiol (Llun 1 & 2)

Yn gynnar yn ystod y 1930au, dechreuwyd cynllunio i adeiliadu cwch hwylio ‘Sloop’ 20 troedfedd. Y cynllun oedd i gael cwch hwylio a oedd yn gallu cael ei rasio a hwylio ar yr Afon Menai, yr afon enwog sydd yn gwahanu Ynys Mon o weddill Cymru.

​Maer Fenai yn enwog hefyd oherwydd y newidiadau llanw, syn amrywio o ehangder llydan ar llanw uchel, i sianel main ar lanw isel yn cynwys rhwystrau o banciau tywod, creigiau, a Pwll Ceris  (Swellies).   Yn nol yr hanes, mi ddisgrifiodd Nelson Pwll Ceris fel ‘most treacherous waters in the world’ ag mi ddywedodd ‘if you can sail here, you can sail anywhere’.
 

Tow through Swelles_Story.png

Tynnu trw Pwll Ceris yn 19531953
Llongddrylliad enwog, yr HMS Conwy yn y cefndir. (Llun 3)

​Rhwng 1937 a 1952, cafwyd dwy-ar-bymtheg o MSOD eu adeiliadu, ac yn cael eu rasio ar y penwythnosau.  I ddechrau, cychwynodd y rasus o Fiwmaris gyda saethu gwn potsiwr o Penrhyn Safnas. Cafodd hyn ei ddilyn yn fwy diweddar gan saethu canon gyda cetris blank. 

MS Logo.jpg

Logo yr MSOD  (Llun 4)

​Mi wnaeth cwch hwylio 3,4,6,7,8,9,10,12,15,16,17 ag 18eg aros yng Ngogledd Cymru. Roedd rhif 4 a 5 yn cael ei defnyddio am flynyddoedd fel cychod hwylio hyfforddi, 5 gyda HMS Conway, a 4 gyda Sgowtiaid Morol Biwmaris.

 
Maer ddau ethos o bwrpas sylfaenol y cychod hwylio wedi bod yn gyson ar hyd fywyd y fflyd. 


Yn gyntaf cael eu paratoi a hwylio fel yr oeddant wedi eu adeiliadu nol yn 1937, heb dim addasiadau.  

​

​Yn ail, nid yw'r cychod hwylio i cael eu gwerthu i rhywyn sydd ar bwriad o symud y gwch allan or ardal lleol, neu eu addasu i bwrpas gwahanol. Yn anffodus, nid yw'r ethos yma wedi cael ei ddilyn yn gadarn ar hyd y blynyddoedd cynar, a mae rhai wedi cael eu addasu a symud i ffwrdd. Erbyn ganol y 70au, canlyniad hyn oedd ond ychydig iawn oedd dal yn cael eu hwylio, a weithiau ond un ne ddau yn rasio.

​

Yn 1948, gafodd rhif 1 ei werthu, a rhoi injan ynddi i fod yn lawnsiad ar y Thames. Cafodd rhif 2 injan hefyd eto yn 1948, ond gafodd ei dynu allan yn 1952. Rydym ar ddeallt fod rhif 5 wedi ei ddinistrio mewn storm, rhif 11 wedi ei cholli yn y mor, a rhif 14 wedi diflanu.


Yn ystod diwedd y 70au, mi ddechreodd pethau newid, i geisio cynyddu rhifau o gychod hwylio MSOD yn yr ardal.  

 

Y cam gyntaf oedd pan prynwyd rhif 1, ai ddychwelyd yn nol i Fon ar ol bron i 30 o flynyddoedd i ffwrdd.  Tynwyd allan ei injan, ag roedd yn hwylio unwaith eto.  Yn dilyn y llwyddiant yma, dechreuodd perchnogion anog perchnogion eraill i adnewyddu eu cychod a dychwelyd ir fflyd, ag gydar brwdfrydedd yma roedd dyfodol y fflyd yn edrych ddisglair  unwaith eto.

 

Yn 1985, bu ddarganfod ffram ‘sloop’ wedi ei chladdu o dan ddwr a mwd.  Pan ei chodwyd a llnau mi gafodd ei hadnabod, sef rhif 11, Ceris.  Ar ol ambell o geisiadau iw ail-hadeiliadu, mi gafodd ei chadw gan David Gallichan, gydar adferiad iw ddechrau ar ei ymddeoliad yn 2004.

​

​Tua yr un amser, yn dilyn ymchwiliadau helaeth gan Ray Beer, bu ddarganfod fod y tro olaf cafodd Sudy, rhif 14 ei gweld oedd mewn iard gychod yng Nghanolbarth Cymru yn y 60au cynnar.  Ar ol ymwelio ar iard, mi ddarganfwyd fod yno hen adeiliadwr gychod wedi bod yn gweithio arni yn ystod y 60au, a gorchuddiodd gwaelod y gwch a gwydr ffibr o dan ei llinell ddwr.

​

​Darganfyddwyd ymchwiliadau pellach, fod Sudy wedi cael nifer o newidiadau yn yr amser oedd i ffwrdd.  Arwahan i fod yn gwt ieir am dipyn, yn 1964 gafodd cabin ei rhoi arni, ag yn 1977 dwy gilbren.  Mi chafodd ei darganfod yn 1985 yng Ngorllewin Cymru, ai dychwelyd i Sir Fon. Dros y tair mlynedd yn dilyn, mi chafodd ei hadnewyddu yn gyfan gwbl, ai lawnsio yn 1989 fel yr oedd wedi ei dylunio yn wreiddiol.

​

​Yn y cyfamser, mi ddechreuwyd ailadeiliadu Ceris. Er gwaethaf ei hamser dan ddwr, roedd mwyafrif o waith pren corff y gwch wedi cadw.  Mi gafodd hefyd ei hadnewyddu, ag ei lawnsio yn y 90au.  Erbyn ganol yr 80au, ar wahan i un, roeddynt yn gwybod lle oedd pob un arall MSOD.

​

 

​

 

​

Sudy Now & Then.png

Sudy pan gafwyd hyd ohoni yn1984, ac yn dilyn ei hadnewyddu cael ei rasio yn y 2000au  
(Llun 5 & 6)

​Yn y cyfamser, mi ddechreuwyd ailadeiliadu Ceris. Er gwaethaf ei hamser dan ddwr, roedd mwyafrif o waith pren corff y gwch wedi cadw.  Mi gafodd hefyd ei hadnewyddu, ag ei lawnsio yn y 90au.  Erbyn ganol yr 80au, ar wahan i un, roeddynt yn gwybod lle oedd pob un arall MSOD.

​

12.09.29 Ceris ahead of Playmate.jpg

‘Ceris’ yn arwain y fflyd yn 2017, yn erbyn y gynt enillydd 'Playmate'.
(Llun 7)

Felly, beth ddigwyddodd i Aderyn, rhif 5, cwch llawn dirgelwch a hanesion mawr?  Yr hanes olaf oedd yn ystod y 50au hwyr / dechrau y 60au, pryd chafodd ei dwyn , ag aeth i lawr mewn storm yn ystod 1958, neu wedi cael i chwalu i ddarnau yn erbyn wal mor, ag ei llosgi oherwydd doedd dim posib ei thrwsio. Y mae hyn yn siomedig iawn, oni bai am un gwch, mi fysa ni gyda yr unig ddosbarth cyflawn o gychod or cyfnod yma yn y byd.

 

Yn 1985, roedd perianwr RNLI o Fiwmaris yn trafeilio o gwmpas Northumberland. Pan fu ymweld a Lindisfarne, mi sylwodd ar be edrychai fel MSOD yn cael ei defnyddio gyda injan.  Pan gyrhaeddodd adra, mi siaradodd a Ray Beer.

 

Yn dilyn nifer o galwadau, ag ymchwil pellach, mi darganfwyd y perchenog.  Roedd wedi prynu y gwch fel cwch bysgota bychan tua 3 mlynedd ynghynt.  Er bod ganddi mast, nid oedd y perchenog wedi cael achos iw defynddio i hwylio.  Aeth y sgwrs ymlaen i ddisgrifio y gwch mwy manwl, ag mi oedd yn dod yn gliriach gyda pob mesuriad a dimensiwn, eu bod yn trafod Aderyn, y gwch roedd wedi diflanu ai dinistrio.

​

Mi oedd gan y perchenog bag o hwyliau, ag pan agorwyd, mi darganfyddodd hwyl bychan gyda MS5 wedi ei ysgrifennu arni.  Roedd y gwch olaf wedi ei darganfod.​
 

Old Ceris Aderyn.jpg

Ceris gyda Aderyn yn y cefndir, o gwmpas 1948 cyn iddynt ddiflanu o Fon. (Llun 8)

Yn ystod y blynyddoedd dwythaf, mae pob 17 or cychod hwylio yma wedi bod ar y dwr, a phob un ohonynt wedi rasio yn y 12 mlynedd olaf. Ar un achlysur, pan oedd 13 ohonynt allan yn rasio, roedd y gwch gyntaf ag ail yng nghwmni pod dolffiniaid am y ddwy filltir olaf. Roedd y profiad yma yn un hudolus iawn.

​

Aderyn & Suzanne_Story.png

Ar y dde, yn 2018, Aderyn ar ddiwrnod tawel gyda Yr Wyddfa yn y cefndir.
Ag ir chwith, Suzanne yn mwynhau awyr iach yn 2014.

(Llun 9 & 10)

Mi sefydliwyd Hwylio Treftadaeth y Fenai gydar bwriad i alluogi y cychod yma i hwylio ag aros yn lleol.  

Maent, o be y wyddon ni, y fflyd cyflawn hynaf One Design o 17 ne fwy o gychod hwylio yn y byd.

©2025 gan Hwylio Treftadaeth y Fenai.

bottom of page