
AMDANOM NI, HWYLIO TREFTADAETH Y FENAI
Sicrhau y dyfodol o fflyd unigryw hynafol, creu cyflaoedd gwaith, ag anog cyfranniad cymdeithasol.
Yn ystod 1937, cafodd y rhai cyntaf o gychod hwylio Menai Strait One Design (MSOD) eu adeiladu yn Penrhyn Safnas, Biwmaris. Gafodd y gwch olaf ei hadeiladu yn 1952.
​
Yn 1938 mi greuodd perchnogion y cychod glwb, a gafodd ei gydnabod yn ffurfiol gan ddod yn gysylltiedig ar Gymdeithas Hwylio Brenhinol (RYA). Ers yr amser yma, maer fflyd wedi hwylio a rasio fel rhan o rhaglen Glwb Brenhinol Hwylio Mon (RAYC), ond hefyd dal gyda statws clwb anibynol.
​
Mae gan glwb MSOD strwythur democrataidd syn cael ei etholi, gyda cyfarfodydd cyffredinol blynyddol, pwyllgorau a hierarchaeth o swyddogion Fflag, a Ddi-Fflag.
​
O ymchwil, maen debyg mai’r fflyd yma ywr unig fflyd cyflawn hynafol o gychod hwylio gyda cilbren syn disgyn, ag un or fflyd cyflawn hynaf yn y byd. Mae rhan fwyaf or cychod yn hynafol, ag maer rhai ers y rhyfel yn glasurol, ag mi fyddant yn hynafol yn 2027.
Er fod pob cwch a perchenog, ag 16 ohonynt ar gallu iw cael ei lawnsio gyda ond dipyn bach o waith (cafodd 10 ei lawnsio yn 2021) mi oedd eu dyfydol yn edrych yn llwm. Mae nifer or rhai brwdfrydig, ag adeiladwyr cychod or 1980au a oedd yn cynghori a chynorthwyo y perchenogion, yn anffortunus ddim gyda ni dim mwy. Hefyd mae llawer or perchenogion a phobl brwdfrydig yn rhan hyn or boblogaeth, ag ddim yn gallu gweithio ar y cychod fel yr oeddynt. Fel mae'r amser yn mynd, fydd angen mwy o ofal ar y cychod, ag mae gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn angenrheidiol ar gychod coed hyn.
​
Mae yna rhai or genhedlaeth ifengach yn dechrau prynu y cychod, ag yn brwdfrydig iawn yn eu cynnal, ond nid yw hyn yn waith hawdd, gyda llai a llai o wybodaeth a sgiliau ar gael iddynt. Er nad yw'r cychod yn ddrud iw prynu, mae angen llafur sgiliol iawn ag amser iw cynnal a chadw. Maer nifer o adeiladwyr cychod wedi lleihau yn arw dros blynyddoedd diweddar, gyda lleihad pellach yn y rhai a sgiliau a profiad o gychod pren.
​
Mi ddatblygodd y syniad am y prosiect yn ystod pandemig Covid-19 yn 2020. Yn ystod yr amser annodd yma, oherwydd gorfod cadw pellter cymdeithasol, mi gynyddodd profiadau arwahanrwydd, ag effeithiau ar iechyd meddwl, ag hyn yn ystod amser lle roedd galw ar y gwasanaethau cefnogol ar ei fwyaf.
Amcan y prosiect yma oedd i geisio mewn unrhyw ffordd posib, i cymorthi a ymdrechu i helpu gyda rhai o sialensau o’n hamgylch, gan greu menter cymdeithasol agored. Fel rhan o ymateb cenedlaethol i effeithiau C19, mi wnaeth y RYA cynllunio arweiniad i hybu manteision ag effeithau positif y gall hwylio ei gael ar iechyd meddwl;
https://www.rya.org.uk/news/why-getting-out-on-the-water-is-good-for-you
Er hyn, mae hwylio dal yn cael ei weld yn elitaidd, ag yn rhy arianol, pryd maer gallu yno iw wneud yn agored ag phosib I bawb.
​​
Yn dilyn misoedd o gymgynghoriadau gyda perchenogion y cychod a phartion eraill a diddordeb, mi gytunwyd ar yr amcanion yma;
- Datblygu y sgiliau sydd eu angen i adnewyddu, a cynnal y cychod.
- Cynyddu a cefnogi ymgysylltu yn y gymuned gan cynnig pawb y cyfle i hwylio, dim ots beth yw eu cefndir.
- Defnyddio y cyfle yma i greu cyfleuon gwaith.
Mi fydd llwyddiant y prosiect yn cael ei fesur gan cael prentisiaeth mewn swydd, a cyrraedd targedi codi arian. Mi fydd hyn hefyd yn galluogi mwy o gychod yn cael eu hwylio, a sicrhau prynu ag ailadnewyddu hyd at tair cwch i rhoi cyfle i bawb hwylio.
Amcan tymor byr, (hyd at 3 mlynedd) yw i gael y 17 MSOD ar y dwr. Amcan tymor hir yw i sirchau fod y fflyd yn cynaliadwy, drwy prentisiaeth pellach, cyllid, a chael phobl gydar sgiliau yn gweithio yn y maes.
Mi fydd rhaid ir prosiect datblygu polisiau i sicrhau fod pob amcan yn gael ei gyflawni.
Maer prosiect wedi ehangu ers y dechrau. Mae grwp o ymddiriedolwyr, a chodi arain wedi eu sefydlu. Mae yno gwmni lleol adeiliadu cychod llagorol wedi cytuno i gael prentisiaeth yn dilyn cadarnhad cyllid, yn ogystal a cyfathrebu gyda Coleg Llandrillo i ddatblygu cymorth academaidd ir prentisiaeth gael cyflawni NVQ3 yn Peirianeg Morol.
​
Rydym wedi cwblhau cais at Elusen Comisiwn i gael ar eu cofrestr fel Sefydliad Corfforedig Elusennol, gydar cyfrifau cyllid yn cael eu trefnu. Rydym wedi cael nifer o ymatebion positif pryd rydym wedi cyfarfod a llywodraeth lleol, busnesau lleol a chenedlaethol, ag unigolion sydd a diddordeb in cymorthi yn arianol yn cynwys grantiau.
Rydym yn ymroddedig i ymgysylltu ar gymuned, grwpiau ieuenctid ag addysgol, a chwrdd a phobl hwylio, i greu y cyfle i bawb gael hwylio y cychod.
Mi fydd llwyddiant y prosiect yn cael ei fesur gan cael prentisiaeth mewn swydd, a cyrraedd targedi codi arian. Mi fydd hyn hefyd yn galluogi mwy o gychod yn cael eu hwylio, a sicrhau prynu ag ailadnewyddu hyd at tair cwch i rhoi cyfle i bawb hwylio.
​
​
• Er pwrpas y ddogfen yma, mae cwch hynafol yn hyn na 75 mlwydd oed
• Er pwrpas y ddogfen yma, mae cwch clasurol yn hyn na 50 mlwydd oed.
​
​
​
​
​
​
​
​