
CYNLLUN PRENTISIAETH
CEFNOGI TREFTADAETH, CREU CYFLEOEDD, A CHOFLEIDIO CYFRIFIOLDEB CYMDEITHASOL
Yn ol ystadegau gan ein llywodraeth, maer nifer o grefftwyr medrus syn arbennigo yn ddiwydiant adeliadu cychod yng Nghymru wedi lleihau o tua 300 i o gwmaps 85 rhwng 1990au a 2015. Or nifer yma, ond ychydig ohonynt sydd yn gweithio gyda’r greft traddodiadol.
Rydym ni yn credu, i roi bob cyfle ir prosiect yma fod yn llwyddianus, rydym angen rhoi cymorth i fobl iw galluogi i gael y sgiliau angenrheidiol syn gysylltiedig ag adnewyddu a adferu crefftau traddodiadol.
Yn Mehefin 2021, mi ddechreuon edrych i fewn ir posibilrwydd o buddsoddi cyllid i mewn i brentisiaeth achrediad a chadarn. Roeddan yn llwyddianus, gyda Llywodraeth Cymru yn gefnogol ag yn cynnig cyfranu tuag ag gost y flwyddyn gyntaf. Roedd John a Nina o gwmni Classic Sailboats Ltd ar y pryd yn penderfynu unai ymddeoli, neu cymerud prentisiaeth ymlaen.
Yn dilyn cymorth a chyngor gan Gill Quine o Goleg Menai, mi gytunodd gwmni Classic Sailboats Ltd i gymerud ymlaen prentisiaeth gyda MSHS yn buddsoddi gweddill y cyllid am y flwyddyn gyntaf. Yn mis Awst, mi aeth yr hysbyseb allan. Cafwyd y cyfweliadau eu cyflawnhau yn gynar mis Medi, oherwydd i sicrhau cyllid or llywodraeth oedd raid dechra y swydd erbyn Hydref 1af. Yn dilyn y cyfweliadau, mi ddechreuodd Polly y swydd erbyn diwedd Medi.
​

Llun Polly o dan MS yn ben ycha isaf, yn paratoi y planciau i roi y pren llawr wedi ei adnewyddu yn ei ol.
Roedd angen troi y gwch ben ycha isaf, i alluogi gwell golwg ag lle i weithio, i dynu a rhoi yn ei ol, y planc ‘garboard’, sef y cyntaf allan or gilbren. Maer pwynt yma yn aml yn cael dwr yn gollwng mewn cwch MS.
Maer marciau X a ?, yn hysbysu pa asennau fydd angen eu disodli neu trwsio.
Roedd y prentisiaeth wedi ei sefydlu hefo Classic Sailboats, gyda’r gofyniad o fynychu Coleg Menai un diwrnod yr wythnos i gael yr theori academaidd a agwedd peirianeg fecanyddol or cwrs.
Yn ystod y flwyddyn cyntaf, gafodd John gomisiwn i ailadeiladu yn gyflawn gwch Mylne One Design. Roedd y gwch yma yn gwch rasio dydd 25 troedfedd, a chafodd ei ddylunio gan Alfred Mylne yn 1934 i hwylio a rasio allan o unai Bae Treaddur ym Mon, neu Afon Mersy.
​
Mi gymerodd y prosiect yma dros 8 mis, dan gynnwys tynu allan, ag unai ailnewid neu adnewyddu rhannau fel y dec, y planciau, assenau a mast. Roedd hyn y gyfle arbennig iawn I ddysgu. Ar ol ir prosiect yma orffen, dechreuodd Polly weithio ar yr MSOD rhifau 6, 8, 9 a 12eg.
​
Yn ystod blwyddyn olaf Polly, roedd y gronfa yno i gyflawni yr ailadeiladu o MSOD rhif 7, a gafodd Polly fod yn ran or prosiect yn gyfan gwbl, or dechra tan y diwedd. Mi orffenodd Polly ei chwrs yn yr haf o 2024, a mi sicrhawyd cyflogaeth tymor hir sy'n dal i gyfranu at ddatblygiad ei sgiliau.
Fe fydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn ystod 2025 os oes y cyllid i gynig prentisiaeth arall.
​
​
​
