
CEFNOGI TREFTADAETH, CREU CYFLEOEDD, A CHOFLEIDIO CYFRIFIOLDEB CYMDEITHASOL
FFLYD HYNAFOL UNIGRYW
Mae Hwylio Treftadaeth y Fenai (MSHS) yn prosiect arloesol a chymunedol treftadaeth syn canolbwyntio ar Penrhyn Safnas, Afon Menai ar gymuned lleol. Mae’r ardal arbennig yma o amgylch Biwmaris, ar Ynys Mon yng Ngogledd Cymru, wedi ei drwytho mewn treftadaeth lleol a morol.
Rydym yn gobeithio fydd fod yn ran o brosiect unigryw treftadol lleol fel hwn yn gyfla i ymgyslltu a chynnwys grwp eang o fobl, i alluogi datblygiad, a rhannu y manteision syn gysylltiedig a fod yn ran o gymuned lleol.
​
Ein prif amcanion yw;
- Cynhwysiad – hyrwyddo ag ymgysylltu cyfraniad gan grwp eang o fobl;
- Cyfrannu at welliant lles;
- Datblygu sgiliau a hyforddiant / cyfleuoedd cyflogaeth;
- Gwella asedau treftadaeth yn cynwys sgiliau lleol unigryw.
​
Fel grwp o bobl syn hwylio, rydym yn teimlo fod nifer o fanteision ychwanegol, nid yn unig mewn hwylio, ond o fod yn ran o brosiect syn cynnig y cyfla i gyfarfod a gweithio a cychod, ag ymuno a thraddodiad hir o ddynion a merched a sefydlodd y shediau a cynnal cychod yn Penrhyn Safnas ers y 19eg ganrif.
​
Mi ddatblygodd y syniad am y prosiect yn ystod pandemig Covid-19. Yn ystod yr amser annodd yma, oherwydd gorfod cadw pellter cymdeithasol, mi gynyddodd profiadau arwahanrwydd, ag effeithiau ar iechyd meddwl, ag hyn yn ystod amser lle roedd galw ar y gwasanaethau cefnogol ar ei fwyaf.
​
Felly yn 2021, yn dilyn llawer iawn o ymgynghori, gafodd ymddiriedolwyr eu etholi, a dechreuwyd gweithio tuag at ein nod o greu sefydliad cymdeithasol, nid er elw, syn canolbwyntio ar anghenion lleol tra yn sicrhau a chefnogi treftadaeth.
​
Penderfynwyd sefydlu y prosiect o amgylch cwch lleol, The Menai Strait One Design. Maer gwch arbennig yma yn fflyd o gychod a cafodd eu cynllunio gan pensaer llongau lleol, ag wedyn eu adeiliadu yn gyfan gwbl ar Benrhyn Safnas rhwng 1937 i 1952. Yn ryfeddol maent dal i fodoli yn lleol, a mwy na thebyg y fflyd hynaf cyflawn o fwy na 17 o gychod One Design yn y byd. Mae ein prif gweithgareddau yn gysylltiedig a gwaith i gynal a chadw, adnewyddu, gwarchod a hwylio y fflyd unigryw treftadol yma.
​
Or dechreuad, rydym wedi cael llawer o gymorth gan sefydliadau lleol a chenedlaethol, ag yn arbennig gan rhoddion rheolaidd gan unigolion. Mae hyn wedi galluogi y prosiect i ddatblygu llawer ynghynt na beth oedd wedi ei rhagweld.
​
Mi roeddem wedi gobeithio yn optimistaidd, gael ambell o gychod a oedd angen eu adnewydd ar y dwr erbyn 2023/2024, ac wedi diogelu sied fel hwb erbyn 2024.
Yn anisgwyl, rydym yn berchen ar pedair cwch, ag wedi adnewyddu ag ail-werthu pumed. Mae un ohonynt dal angen llawer o waith adnewyddu, ond rydym yn obeithiol fydd y pump ohonynt ar y mor yn 2025.
​
Rydym wedi cael gweinyddwr rhan amser. My ymunodd Victoria a ni yn Ebrill 2024.
Maer nifer o wirfoddolwyr a cyfranogrwydd wedi cynyddu yn flynyddol.
​
Rydym wedi mynd a drost 100 o fobl yn hwylio, tua 35 ohonynt yn wirfoddolwyr yn cynwys cyfranwyr, hyfforddwyr/ cefnogwyr hwylio, cyweirwyr cychod, cyfieithwyr, staff bar, cynghorwyr a llawer eraill sydd wedi rhoi eu hamser i gefnogi y prosiect.
​
Rydym hefyd wedi diogelu cael defnyddio sied fawr o Fai 1af 2023, felly yn ogystal a cael storfa gychod, rydym am ei ddefnyddio fel cyfleuster cymunedol o 2025.
​
Yn ychwanegol i hyn, rydym wedi cynnorthwyo mewn buddsoddi prentisiaeth peirianeg morol, i gefnogi ein amcenion tymor-hir. Cafodd hyn iw gyflawni yn Mehefin 2024. Mae ystyriaeth yn parhau os am buddsoddi ymhellach mewn prentisiaeth.
​
Ar y 1af o Ragfyr, 2023, mi ddiogelodd y prosiect statws Sefydliad Corfforedig Elusennol.
​
Mae mwy o wybodaeth am sut i ddod yn ran on prosiect ar gael ar ein tudalen gwirfoddoli.
Rydym yn edrych ymlaen ich croesawy yn ein sied, neu gwch ar y dwr.
​

HWYLIO
TREFTADAETH
Y FENAI
Fflyd arbennig unigryw iawn
